Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Medi 2018
Amser:
08.30 -
08.47
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies. Roedd Darren Millar yn bresennol yn ei le.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 26 Medi 2018 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru (60 munud)
· Dadl ar Ddeiseb P-05-826 - Mae Sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg! (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
–
gohiriwyd
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) – gohiriwyd
Dydd Mercher 10 Hydref 2018 –
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.
Amserlen Cyllideb Llywodraeth Cymru 2018-19
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid, cytunodd Rheolwyr Busnes i gadarnhau'r amserlen fel y'i cynigiwyd gan Arweinydd y Tŷ. Fodd bynnag, os cyhoeddir gwybodaeth newydd ynghylch yr amserlen ar gyfer Cyllideb y DU, bydd y Rheolwyr Busnes yn adolygu'r amserlen ar yr adeg honno.
Cytunodd Rheolwyr Busnes ar yr amserlen a ganlyn ar gyfer trafod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru:
|
Dyddiad
|
Gosod cynigion amlinellol ar gyfer cyllideb y Llywodraeth
|
2 Hydref 2018 |
Gosod cynigion manwl ar gyfer cyllideb y Llywodraeth |
23 Hydref 2018 |
Y dyddiad cau i'r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad ar gynigion amlinellol cyllideb y Llywodraeth
|
27 Tachwedd 2018 |
Y dyddiad cau i'r pwyllgorau eraill gwblhau eu hystyriaeth o'r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb
|
27 Tachwedd 2018 |
Cyflwyno cynnig y gyllideb flynyddol
|
18 Rhagfyr 2018 |
Cytunodd Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol bod y pwyllgor yn cynnal cyfarfod y tu allan i'w slot arferol fore Llun 15 Hydref 2018 i glywed tystiolaeth gan y Gweinidog Gwladol dros bolisi masnach ar oblygiadau polisi masnach i Gymru.
Cytunodd Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod y pwyllgor yn cynnal cyfarfod y tu allan i'w slot arferol brynhawn dydd Mawrth 15 Tachwedd i gynnal cyfarfod cydamserol â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod yr opsiynau â'u grwpiau a dychwelyd at y mater wythnos nesaf.
Newid aelodaeth pwyllgorau
Nododd Rheolwyr Busnes y byddai'r newidiadau i aelodaeth Ceidwadwyr Cymru a UKIP o'r pwyllgorau perthnasol yn cael eu hychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw.
Helen Mary Jones
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n croesawu'r Aelod Cynulliad newydd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn heddiw.